Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 4734 for "Dafydd Jones o Drefriw"

1 - 12 of 4734 for "Dafydd Jones o Drefriw"

  • ABADAM, ALICE (1856 - 1940), ymgyrchydd dros hawliau merched Ganwyd Alice Abadam yn Llundain ar 2 Ionawr 1856, yr ieuengaf o saith o blant Edward Abadam (gynt Adams, 1810-1875) a'i wraig Louisa (g. Taylor, 1828-1886). Magwyd Alice yn Neuadd Middleton yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin (ar safle Gerddi Botaneg Cymru heddiw), a brynwyd gan ei thad-cu ar ochr ei thad, Edward Hamlin Adams, yn 1824 pan ddychwelodd o Jamaica lle bu'r teulu'n berchen ar gaethweision
  • ABDUL-HAMID, SHEIKH (1900 - 1944), pensaer ac arweinydd Mwslemaidd Ganwyd Sheikh Abdul-Hamid ar 21 Ionawr 1900 yn Rajputna (sy'n cyfateb yn fras i Rajasthan heddiw) yng ngogledd India. Dywedir ei fod yn fab i bennaeth un o'r tylwythau Rajput, er nad oes gwybodaeth fanwl ar gael am ei deulu. Sheikh oedd ei enw cyntaf, a gallai fod yn arwydd o'i dras, ond nid oedd yn deitl crefyddol. Yn bedair ar ddeg oed dechreuodd weithio am gyfnod o dair blynedd fel dyluniwr i
  • ABEL, JOHN (1770 - 1819), gweinidog Annibynnol Ganwyd yn Llanybri, Sir Gaerfyrddin, 1770, i William Abel, pregethwr cynorthwyol, un o gychwynwyr (1813) achos y Capel Newydd yno. Honnir iddo fynd 'i Academi Caerfyrddin,' ond yn Abertawe yr oedd yr Academi ar y pryd. Yn 1794 dilynodd David Davies fel gweinidog eglwys fechan Capel Sul, Cydweli, a chadwai ysgol. Nid oedd John Abel yn 'uniongred'; dywed yr Undodwr Wright, a ymwelodd â Chymru yn
  • ABEL, SIÔN, baledwr o'r 18fed ganrif yn trigo yn sir Drefaldwyn Ef oedd awdur ' Cerdd yn erbyn medd-dod, celwydd a chybydd-dra ', a gyhoeddwyd yn un o dair cerdd mewn llyfryn o wasg H. Lloyd, Amwythig, sef rhif 154 yn y Bibliography of Welsh Ballads (J. H. Davies). Fe geir hefyd yn NLW MS 14402B, sydd yn gasgliad yn llaw Humphrey Jones, o Gastell Caereinion (ganwyd 1719), o gerddi gan feirdd o ardaloedd Meifod a Chaereinion (ymhlith pethau eraill), ddarn
  • ABLETT, NOAH (1883 - 1935), Glöwr ac arweinydd Undeb Llafur Ganwyd yn Porth, Rhondda, 4 Hydref 1883, mab John a Jane Ablett. Glöwr yn y Rhondda oedd Ablett pan aeth i'r Coleg Llafur. Pan ddychwelodd penodwyd ef yn swyddog mesur glo yn y Maerdy. Etholwyd ef yn aelod o bwyllgor canol Ffederasiwn Glöwyr y De, yn Ionawr 1911, ac yn ddiweddarach o bwyllgor canol Ffederasiwn Glöwyr Prydain Fawr. Yn 1918 penodwyd ef yn gynrychiolydd y glowyr ym Merthyr ac yno y
  • ABRAHAM (bu farw 1232), esgob Llanelwy Cysegrwyd ef 29 Mehefin 1225 yn Westminster gan Stephen Langton. Ni wyddys ddim am ei yrfa cyn hynny, ond y mae'n debyg ei fod yn Gymro. Disgrifia Peniarth MS 20 ef yn 'euream.' Yn 1227 rhoes ail 'hanner' eglwys Wrecsam i abaty Valle Crucis, a thrachefn, yn 1232, 'gyfran' o eglwys Llangollen.
  • ABRAHAM, RICHARD (fl. 1673-1700), bardd Yn ôl pob tebyg o Fôn. Ceir cywydd, englynion, cerddi, a dyrïau o'i eiddo yn NLW MS 9B, NLW MS 253A, NLW MS 593E, NLW MS 645B, NLW MS 832E, NLW MS 1238B, NLW MS 1774E.
  • ABRAHAM, WILLIAM (Mabon; 1842 - 1922), aelod seneddol a llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru y glowyr ar y ' Joint Sliding Scale Association ' o 1875 hyd ei ddiwedd yn 1903. Ni weithiai y glowyr ar ddydd Llun cyntaf y mis o 1892 i 1898, er mwyn cwtogi cynnyrch a sefydlogi cyflogau. Galwyd y dydd yn 'Ddiwrnod Mabon.' Yn 1885 etholwyd ef yn aelod seneddol dros y Rhondda, ac ef oedd y glowr cyntaf i'w ethol o Ddeheudir Cymru. Cynrychiolodd orllewin Rhondda o 1918 i 1922. Cysylltodd ei hun
  • ADAM (bu farw 1181), esgob Llanelwy Pan bwyswyd yn 1175 ar Godfrey, a fuasai i ffwrdd yn hir o'i esgobaeth (a oedd bellach o dan reolaeth y Cymry), i ddychwelyd, fe ddewisodd yn hytrach ymddiswyddo. Llanwyd ei le trwy ddewis Adam, Cymro a fu'n astudio yn ysgolion Paris ac a ddyrchafesid yn ganon yn yr eglwys gadeiriol yno; fe'i cysegrwyd yn Westminster gan yr archesgob Richard, 12 Hydref. Oherwydd peth tebygrwydd yng ngyrfa'r ddau
  • ADAM 'de USK' (1352? - 1430), gwr o'r gyfraith Hanoedd o dref Caerbuga (Usk), ar lan afon Wysg. Yr oedd yn ddyledus am ddechrau ei yrfa i Edmund Mortimer, iarll March, a gawsai arglwyddiaeth Usk fel rhan o etifeddiaeth ei wraig Philippa; talodd ef drosto (1369) i fynd i ddysgu'r gyfraith sifil a chanon yn Rhydychen. Yng nghwrs amser, cymerth radd doethur yn y gyfraith a dyfod yn athro'r gyfraith yn y brifysgol; yno, fel y dywed ef ei hun, bu
  • ADAMS, DAVID (1845 - 1922), diwinydd Goleg Normal Bangor. Yn 1867 dechreuodd fel ysgolfeistr yn y Bryn, Llanelli. Yn 1869 aeth i Goleg Normal Abertawe. Bu'n ysgolfeistr yn Ystradgynlais yn 1870-2. Wedi cyfnod o waelder iechyd enillodd ysgoloriaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle y graddiodd yn B.A. (Prifysgol Llundain) yn 1877. Yn 1878 ordeiniwyd ef yn weinidog yn Hawen a Bryngwenith (A.), pryd yr amlygodd ei wroldeb a'i
  • ADAMS, ROGER (bu farw 1741), argraffydd yng Nghaer Courant. Efe, hefyd, a argraffodd John Reynolds, The Scripture Genealogy and Display of Herauldry, 1739. Wedi ei farw bu ei weddw, ELIZABETH ADAMS, yn dwyn y busnes ymlaen. Hyhi a argraffodd Cydymaith Diddan (Dafydd Jones o Drefriw), 1766; argraffodd hefyd, e.e. yn 1752 a 1753, lawer o faledi.